1,2,3,(4); 1,2,3,5; 1,2,3,6. 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy' Yn Frawd a Phriod imi mwy; Ef yn Arweinydd, ef yn Ben, I'm dwyn o'r byd i'r nefoedd wen. Wel dyma un, O dwedwch ble Y gwelir arall fel efe A bery'n ffyddlon im' o hyd Ymhob rhyw drallod yn y byd? Pwy wrendy riddfan f'enaid gwan? Pwy'm cwyd o'm holl ofidiau i'r lan? Pwy garia 'maich fel Brenin ne'? Pwy gydymdeimla fel efe? Wel ynddo ymffrostiaf innau mwy; Fy holl elynion, dwedwch, pwy O'ch cewri cedyrn, mawr eu rhi', All glwyfo mwy f'Anwylyd i? Dyma gyfarfod hyfryd iawn, Myfi yn llwm a'r Iesu'n llawn; Myfi yn dlawd, heb feddu dim, Ac Yntau'n rhoddi popeth im'. Ei ganmawl bellach wnaf o hyd, Er maint o boenau sy'n y byd; Dechreuais gân a bery'n hwy, Nag y ceir diwedd arni mwy. - - - - - 'Rwy'n dewis Iesu a'i farwol glwy, Yn Frawd a Phriod imi mwy; Ef yn Arweinydd, ef yn Ben, I'm dwyn o'r byd i'r nefoedd wen. Dysg fi fy Nuw, dysg fi pa fodd, I ddweyd a gwnenthur wrth dy fodd; Dysg fi ryfela'r ddraig b goll, A dysg fi gonc'ro mhechod oll. Y gwana wyf a'r rheitia ei ddwyn, O'r defaid gwirion ac o'r ŵyn, A diau yw mi 'rosa'n ol, Oni chwyd y Bugail fi'n ei gol. Pan gwelech di fi yn crymu 'mhen, At ryw wrthddrychau îs y nen: O dangos im' na thâl yr un, I'w garu byth ond ti dy hun.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Dal fi fy Nuw dal fi i'r làn Dyma gyfarfod hyfryd iawn Dysg fi fy Nuw dysg fi pa fodd Ffordd newydd wnaed gan Iesu Grist Gweddio 'rwyf och'neidio yn brudd O Gyfarfyddiad hyfryd iawn O nertha'm henaid gwan ei ffydd O'r diwedd fe iachaed fy nghlwy' Pechadur wyf da gŵyr fy Nuw Pwy wrendy gŵyn fy enaid gwan? Wrth droi fy ngolwg yma'n awr Yn fynych fynych Iesu cu Yr Oen a laddwyd ydyw rhan |
I am choosing Jesus and his mortal wound As Brother and Spouse to me henceforth; Him as Leader, him as Head, To lead me from the world to blessed heaven. Now here is one, oh tell where Is seen another like he Who continues faithful to be always In all kinds of tribulation in the world? Who hears the groan of my weak soul? Who raises me up from all my griefs? Who carries my burden like the King of heaven? Who sympathises like he? As for me, in him will I boast from now on; All my enemies, tell, who Of your strong giants, great their number, Can wound any more my Beloved? Here is a very delightful covenant, I bare and Jesus full; I poor, not possessing anything, And he giving everything to me. Extol him henceforth I shall always do, Despite the extent of pains that are in the world; I began a song which shall continue longer, Than having any end to it any more. - - - - - I am choosing Jesus and his mortal wound, As Brother and Spouse to me henceforth; Him as Leader, him as Head, To lead me from the world to blessed heaven. Teach me my God, teach me how, To speak and do what pleases thee; Teach me to battle the dragon without losing, And teach me to conquer all my sin. The weakest I am and the most in need of bringing, From the foolish sheep and from the lambs, And doubtless I shall stay behind, Unless the Shepherd carries me in his bosom. Whenever thou seest me bowing my head, To some objects under the sky: O show me that not one at all pays, Ever to be loved, but thou thyself.tr. 2008,22 Richard B Gillion |
|